
2022 Rhif 220 (Cy. 70)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 3 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 7 Mawrth 2022
Yn dod i rym 28 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 1(3)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2022.
Diwygiadau i Reoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012
2 
Yn lle’r Atodlen i Reoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012 (Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru), rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2022
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
YR ATODLEN
Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru
Rheoliad 3
”