
2022 Rhif 209 (Cy. 67)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022
Gwnaed 2 Mawrth 2022
Yn dod i rym 4 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 16(1) o Atodlen 5 iddi.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Yn unol ag adran 50(6)(c) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 16(5) o Atodlen 5 iddi, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022 a deuant i rym ar 4 Mawrth 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008
2 

(1) Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Erthygl 24(3), yn yr is-baragraff cyntaf, yn lle’r geiriau o “at the time” hyd at “free circulation” rhodder “before being offered for sale to the final consumer or to mass caterers”.
Lesley Griffiths
y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2022