
2022 Rhif 208 (Cy. 66) (C. 9)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 1) 2022
Gwnaed 27 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) a (3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 1) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 8 Mawrth 2022
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 8 Mawrth 2022—
(a) adran 24 (is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIG), a
(b) adran 26 (dehongli).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2022
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022—
(a) adran 12 (sefydlu Corff Llais y Dinesydd);
(b) adran 19(1), (2) a (5) (cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd);
(c) adran 21 (ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”);
(d) adran 22 (ystyr termau eraill);
(e) Atodlen 1 (Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru), ac eithrio paragraffau 6, 7, 8 a 22 o’r Atodlen honno.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2022