
2022 Rhif 188 (Cy. 62)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022
Gwnaed 25 Chwefror 2022
Yn dod i rym 28 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(t) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2022.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan Reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
 ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, y mae Gweinidogion Cymru wedi sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig mewn cysylltiad â’i ardal;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth “addasedig” o Ddeddf 2000 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i haddaswyd gan yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021.
Addasiadau i ddeddfwriaeth
3 
Pan fo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad ag ardal awdurdod trafnidiaeth lleol wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig, mae’r ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen.
Darpariaeth drosiannol
4 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad ag ardal awdurdod trafnidiaeth lleol wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig.
(2) Mae unrhyw bolisïau a ddatblygir gan gyngor cyfansoddol o dan adran 108(1)(a) o Ddeddf 2000 i’w trin fel pe baent yn bolisïau wedi eu datblygu gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 108(1) addasedig o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.
(3) Mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys pan fo’r cyd-bwyllgor corfforedig yn datblygu polisïau mewn cysylltiad â’r rhan honno o’i ardal o dan adran 108(1) addasedig o Ddeddf 2000.
(4) Mae unrhyw bolisïau a ddatblygir gan gyngor cyfansoddol o dan adran 108(2A) o Ddeddf 2000 i’w trin fel pe baent yn bolisïau wedi eu datblygu gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 108(2A) addasedig mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.
(5) Mae paragraff (4) yn peidio â bod yn gymwys pan fo’r cyd-bwyllgor corfforedig yn datblygu polisïau mewn cysylltiad â’r rhan honno o’i ardal o dan adran 108(2A) addasedig.
(6) Mae cynllun trafnidiaeth lleol a gyflwynir gan gyngor cyfansoddol ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan adran 109A o Ddeddf 2000 i’w drin fel pe bai’n gynllun trafnidiaeth rhanbarthol wedi ei gyflwyno gan gyd-bwyllgor corfforedig a’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 109A addasedig mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.
(7) Mae paragraff (6) yn peidio â bod yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun trafnidiaeth rhanbarthol y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 109A addasedig.
Dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014
5 
Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014 wedi ei ddirymu.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2022
YR ATODLEN
Addasiadau i ddeddfwriaeth
Rheoliad 3
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005
1 
Mae rheoliad 13 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 i’w ddarllen fel pe bai—
(a) ym mharagraff (1), y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (a) a (b)—“
(a) unrhyw gynllun trafnidiaeth rhanbarthol a baratowyd o dan adran 108(3A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021), y mae ei bolisïau’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;
(b) unrhyw bolisïau eraill a baratowyd o dan adran 108(1) a (2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021) sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;”;
(b) paragraff (3) wedi ei hepgor.
Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006
2 
Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 i’w darllen fel pe bai—
(a) yn adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru), yn is-adran (5), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—“
(aa) each corporate joint committee upon whom the function of developing policies under section 108(1)(a) and (2A)(a) of Part 2 of the Transport Act 2000 has been conferred;”;
(b) yn adran 14 (dehongli), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3)—“
(4) “Corporate joint committee” means a corporate joint committee established by Regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
3 
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 i’w darllen fel pe bai, yn y tabl yn Atodlen 3, y cofnod sy’n ymwneud â Chynllun Trafnidiaeth Lleol wedi ei hepgor.
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
4 
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i’w darllen fel pe bai—
(a) y canlynol wedi ei roi yn lle adran 6 (datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig)—“
Datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig
6 
Rhaid i bob cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (polisïau sy’n sail i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol) wedi ei rhoi iddo, wrth ddatblygu’r polisïau hynny, roi sylw i’r map rhwydwaith integredig ar gyfer ei ardal.”;
(b) yn adran 13, y canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—“
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan Reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.