
2022 Rhif 180 (Cy. 59)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2022
Gwnaed 24 Chwefror 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Chwefror 2022
Yn dod i rym 28 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c)a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2022.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “mangreoedd y mae gan y cyhoedd” hyd at y diwedd rhodder“—
(a) mangreoedd busnesau sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi (mangreoedd manwerthu), gan gynnwys mangre busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau (a) i (m) o baragraff 39 o Atodlen 7;
(b) canolfannau siopa ac arcedau siopa;
(c) mangreoedd milfeddygon a gwasanaethau tocio a golchi anifeiliaid;
(d) cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau;
(e) mangreoedd asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos;
(f) mangreoedd salonau gwallt a barbwyr, salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis, a gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio;
(g) mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd sydd wedi ei baratoi i archeb benodol defnyddwyr ar gyfer ei ddanfon neu ei gasglu i’w fwyta oddi ar y fangre;
(h) mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol, iechyd neu ddeintyddol, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid, optometreg, ffisiotherapi neu aciwbigo, neu wasanaethau meddygol neu iechyd eraill gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl;
(i) mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaeth gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau gofal dydd i oedolion;
(j) cerbyd, pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer—
(i) hyfforddiant am dâl mewn gyrru car modur yn unol ag adran 123 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, neu
(ii) prawf cymhwysedd gyrru fel y disgrifir “test of competence to drive” yn adran 89(1)(a)(i) o’r Ddeddf honno.”;
(b) ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (aa);
(c) ym mharagraff (3), ar y diwedd mewnosoder—“
(i) mewn perthynas â mangre a ddisgrifir ym mharagraff (1)(i), pan fo P yn preswylio yn y fangre.”;
(d) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a) pan nad oes gan y cyhoedd fynediad i’r fangre;
(b) pan fo P mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.”;
(e) ym mharagraff (4), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “paragraff (1)” rhodder “paragraff (3A)(b);
(f) hepgorer paragraff (5);
(g) yn lle paragraff (6) rhodder—“
(6) Pan fo cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (1)(j), mae’r cerbyd cyfan i’w drin fel ardal gyhoeddus o dan do at ddibenion paragraff (1).”;
(h) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) At ddibenion paragraff (1)(i), mae i “gwasanaeth gofal cymdeithasol” yr un ystyr â “gwasanaeth rheoleiddiedig” yn adran 2(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2022