
2022 Rhif 178 (Cy. 58)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022
Gwnaed 23 Chwefror 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Chwefror 2022
Yn dod i rym 1 Ebrill 2022
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2022.
Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1B mewnosoder—“
Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-2022
1C. 
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2021-2022 gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”
(3) Yn rheoliad 5(2)(a), ar ôl “rheoliad 1B” mewnosoder “neu 1C”.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011
3 
Ar ôl rheoliad 1B o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 mewnosoder—“
Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-2022
1C. 
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2021-2022 gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2022