
2022 Rhif 17 (Cy. 9)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022
Gwnaed 7 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (6)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 56 a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—
(a) ar gyfer disgyblion a phlant y darperir addysg feithrin ar eu cyfer,
(b) ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir,
(c) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir,
(d) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021,
(e) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn uned cyfeirio disgyblion,
(f) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm perthnasol ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021, ac
(g) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt pan fo gan yr awdurdod lleol gwricwlwm perthnasol sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir ac nad ydynt, ar 1 Medi 2022, o fewn paragraff (2)(d),
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),
(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),
(d) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn ysgol a gynhelir,
(e) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(f) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 8 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 9 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
(5) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 10 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
(6) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir,
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac
(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 11 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD” (“non-PRU EOTAS”) yw addysg a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 19A o Ddeddf 1996 ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion ac sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021;
 ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant a disgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—
(a) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu
(b) gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
 mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
 mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf 1996;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
 ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol honno,
(b) mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,
(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a
(d) mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996;
 mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 ystyr “tymor ysgol” (“school term”) yw’r dyddiadau y mae tymhorau a gwyliau ysgol i ddechrau a gorffen arnynt;
 mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;
 ystyr “ymarferydd” (“practitioner”) yw person sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm perthnasol;
 mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;
 mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.
Gwneud asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol
3 

(1) Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud trefniadau ar gyfer asesu pob disgybl a phlentyn yn barhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol gan ymarferydd yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth yr ysgol honno,
(b) mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,
(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a
(d) mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996.
(3) Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol—
(a) y cynnydd a wneir gan ddisgyblion a phlant,
(b) y camau nesaf yn eu cynnydd, ac
(c) yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
(4) Rhaid i’r trefniadau asesu fod yn addas ar gyfer disgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol.
(5) Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud y trefniadau asesu yr un pryd â chynllunio’r cwricwlwm perthnasol.
(6) Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion paragraff (1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.
Gweithredu asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol
4 
Rhaid i’r trefniadau asesu yn rheoliad 3 gael eu gweithredu gan y person perthnasol.
Adolygu a diwygio trefniadau asesu parhaus
5 

(1) Rhaid i’r person perthnasol gadw’r trefniadau asesu yn rheoliad 3 o dan adolygiad.
(2) Rhaid i’r person perthnasol ddiwygio’r trefniadau asesu yn rheoliad 3—
(a) os yw’r person hwnnw yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu yn bodloni gofynion rheoliadau 3 mwyach,
(b) os yw’r person hwnnw yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 12, 16, 51 neu 54 o Ddeddf 2021,
(c) mewn perthynas â darparwr sydd wedi mabwysiadu’r trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9, os yw Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r trefniadau asesu a gyhoeddir o dan reoliad 10, neu
(d) os yw’r person hwnnw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
Gwneud trefniadau ar gyfer asesu dechreuol
6 

(1) Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud trefniadau i bob disgybl a phlentyn gael eu hasesu gan ymarferydd yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth yr ysgol honno,
(b) mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,
(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a
(d) mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996.
(3) Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol, alluoedd a doniau disgyblion a phlant er mwyn pennu—
(a) y camau nesaf yn eu cynnydd, a
(b) yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
(4) Rhaid i’r trefniadau asesu—
(a) bod yn addas ar gyfer disgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a
(b) cynnwys trefniadau ar gyfer asesu—
(i) sgiliau rhifedd a llythrennedd disgyblion a phlant, a
(ii) datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion a phlant.
(5) Rhaid i’r asesiadau gael eu cynnal—
(a) o fewn 6 wythnos i addysg feithrin gael ei darparu gyntaf i’r plentyn neu’r disgybl,
(b) o fewn 6 wythnos i’r disgybl ddechrau gyntaf yn y flwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir pan nad oedd yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol honno yn flaenorol,
(c) o fewn 6 wythnos i’r disgybl ddechrau gyntaf ym mlwyddyn 1 mewn ysgol a gynhelir,
(d) o fewn 6 wythnos i’r disgybl gofrestru gyntaf fel disgybl mewn uned cyfeirio disgyblion,
(e) o fewn 6 wythnos i’r disgybl gofrestru fel disgybl mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion o dan unrhyw amgylchiadau eraill nad ydynt wedi eu nodi ym mharagraffau (b) i (d), ac
(f) o fewn 6 wythnos i addysg gael ei darparu i’r plentyn o dan adran 19A o Ddeddf 1996 ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion.
(6) Caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion paragraff (1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.
Gweithredu trefniadau ar gyfer asesu dechreuol
7 
Rhaid i’r trefniadau asesu yn rheoliad 6 gael eu gweithredu gan y person perthnasol.
Adolygu a diwygio’r trefniadau ar gyfer asesu dechreuol
8 

(1) Rhaid i’r person perthnasol gadw’r trefniadau asesu yn rheoliad 6 o dan adolygiad.
(2) Rhaid i’r person perthnasol ddiwygio’r trefniadau asesu a wneir o dan reoliad 6—
(a) os yw’r person hwnnw yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu yn bodloni gofynion rheoliadau 6 mwyach,
(b) os yw’r person hwnnw yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 12, 16, 51 neu 54 o Ddeddf 2021,
(c) mewn perthynas â darparwr sydd wedi mabwysiadu’r trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9, os yw Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r trefniadau asesu a gyhoeddir o dan reoliad 10, neu
(d) os yw’r person hwnnw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi trefniadau asesu
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi trefniadau asesu ar gyfer plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir iddynt (“trefniadau asesu rheoliad 9”).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r trefniadau asesu rheoliad 9 am y tro cyntaf heb fod yn hwyrach na 1 Medi 2023.
(3) Rhaid i’r trefniadau asesu fodloni gofynion rheoliadau 3 a 6.
Adolygu a diwygio trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru
10 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cadw’r trefniadau asesu rheoliad 9 o dan adolygiad, a
(b) adolygu’r trefniadau asesu rheoliad 9 pan fyddant yn adolygu’r cwricwlwm perthnasol o dan adran 14 o Ddeddf 2021.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r trefniadau asesu rheoliad 9—
(a) os ydynt yn ystyried nad yw’r trefniadau asesu hynny yn bodloni’r gofynion yn rheoliad 3(1) i (5) neu 6(1) i (5) mwyach,
(b) os ydynt yn diwygio’r cwricwlwm o dan adran 16 o Ddeddf 2021, neu
(c) os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2022