
2022 Rhif 150 (Cy. 48)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 16 Chwefror 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17 Chwefror 2022
Yn dod i rym 18 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Chwefror 2022.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y lle priodol mewnosoder—
(i) “ystyr “y gwefannau perthnasol” (“the relevant websites”) yw’r gwefannau a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen;”;
(ii) “ystyr “yr wybodaeth ofynnol” (“the required information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen a hyperddolen at bob un o’r gwefannau perthnasol a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen.”;
(b) yn y diffiniad o “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yn lle “Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022”;
(c) hepgorer y diffiniad o “gofyniad i ynysu”;
(d) yn y diffiniad o “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” yn lle “4” rhodder “6”.
4 
Hepgorer rheoliad 10.
5 
Yn lle rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru) a 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael) rhodder—“
Darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael
3. 

(1) Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau bod yr wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (3) yn cael ei darparu i deithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru ar wasanaeth o’r fath, yn y modd sy’n ofynnol gan y rheoliad hwnnw ar yr adegau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yr adegau yw—
(a) pan fo archeb wedi ei wneud i’r teithiwr deithio ar y gwasanaeth perthnasol fwy na 24 awr cyn i’r daith ymadael, o leiaf 24 awr cyn i’r daith ymadael;
(b) pan fo archeb wedi ei wneud i’r teithiwr deithio ar y gwasanaeth perthnasol lai na 24 awr cyn i’r daith ymadael, ar unrhyw adeg cyn i’r daith ymadael.
(3) At ddibenion paragraff (1)—
(a) caniateir i’r wybodaeth ofynnol gael ei darparu ar lafar neu’n ysgrifenedig;
(b) os caiff ei darparu ar lafar, yr wybodaeth ofynnol yw’r wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen (gwybodaeth hanfodol er mwyn dod i mewn i’r DU);
(c) os caiff ei darparu yn ysgrifenedig, yr wybodaeth ofynnol yw’r wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen (gwybodaeth hanfodol er mwyn dod i mewn i’r DU) ac—
(i) pan fo wedi ei darparu drwy ddull electronig, hyperddolen at bob un o’r gwefannau perthnasol;
(ii) pan fo wedi ei darparu drwy ddull arall, destun neu URL pob un o’r gwefannau perthnasol;
(iii) mewn unrhyw achos, rhaid ei darparu mewn ffordd sy’n tynnu sylw’r teithwyr ati drwy fod yn arbennig o amlwg ac yn wahanol i wybodaeth ysgrifenedig arall a ddarperir mewn perthynas â’r archeb.
(4) Pan fo person arall (“A”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ar ran teithiwr arall (pa un a yw A hefyd yn deithiwr ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), rhaid trin y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef os darperir yr wybodaeth ofynnol i A yn y modd gofynnol ar yr adegau a bennir ym mharagraff (2), ynghyd â chais ysgrifenedig i A ddarparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.
(5) Pan na fo’r gweithredwr yn rheoli’r broses archebu neu gofrestru yn uniongyrchol, rhaid i’r gweithredwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person sy’n rheoli’r broses yn cydymffurfio â pharagraff (1) ar ran y gweithredwr.
(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn nac yn rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i berson sydd, yn rhinwedd oedran neu alluedd meddyliol, yn annhebygol o allu ei deall.”
6 
Yn rheoliad 4, ar ôl y gair “Atodlen” mewnosoder “(cyhoeddiad ar y llestr neu’r awyren)”.
7 
Yn rheoliad 5 (eithrio o ofynion rheoliadau 3, 3A a 4)—
(a) yn y pennawd hepgorer “, 3A”;
(b) yn y rheoliad hepgorer “, 3A”.
8 
Yn rheoliad 6 (troseddau)—
(a) ym mharagraff (1) hepgorer “neu (3), rheoliad 3A(2) neu”;
(b) ym mharagraff (2) hepgorer “, rheoliad 3A(2)”.
9 
Yn lle’r Atodlen rhodder—“
YR ATODLEN
Rheoliadau 3 a 4
RHAN 1 Gwybodaeth hanfodol er mwyn dod i mewn i’r DU o dramor
Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(3) a 4 yw—

“Essential information to enter the UK from overseas

All persons arriving in the UK must fill in a Passenger Locator Form before arrival.

Before departure to the UK check if any of the countries you have visited in the last 10 days are on the red list.

If you have visited a country on the red list you must follow the red list rules.

If you have not visited any countries on the red list, what you have to do depends on your vaccination status. Check the rules before you travel at gov.uk/coronavirus.

Public health requirements may vary depending upon which nation of the UK you are travelling to. Check the relevant website if your final destination is in Northern Ireland, Scotland or Wales.

Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. There are a limited set of exemptions from these measures. You may be fined if you fraudulently claim an exemption.”

RHAN 2 Cyhoeddiad ar y llestr neu’r awyren
Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—
(a) y fersiwn Gymraeg—“Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.Os nad ydych wedi eich brechu’n llawn neu os nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, rhaid i chi gymryd prawf ar neu cyn diwrnod 2 ar ôl i chi gyrraedd.Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.Dilynwch y canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’n teithio ynddi.Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o gyngor.”
(b) y fersiwn Saesneg—“The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.If you are not fully vaccinated or do not meet the eligibility criteria, you must take a test on or before day 2 after you arrive.The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.Please follow the Public Health guidance for the area you are living or travelling in.Visit gov.uk/coronavirus for more advice.”

RHAN 3 Gwefannau Perthnasol
Mae’r canlynol yn “gwefannau perthnasol”—

https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk

https://www.gov.uk/guidance/red-list-of-countries-and-territories

https://www.gov.uk/guidance/travel-to-england-from-another-country-during-coronavirus-covid-19

https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-travel-advice

https://www.gov.scot/publications/coronavirus-covid-19-international-travel-quarantine/

https://llyw.cymru/rheolau-ar-gyfer-teithio-rhyngwladol-coronafeirws.
”
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
10 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 11 i 14.
11 

(1) Hepgorer rheoliad 2 (dehongli).
(2) Hepgorer Rhan 2 (profion cyn ymadael).
(3) Yn rheoliad 4 (dehongli)—
(a) yn y lle priodol mewnosoder “mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022;”;
(c) yn y lle priodol mewnosoder “mae i “teithiwr cymwys” (“eligible traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”;
(d) yn y diffiniad o “person awdurdodedig” hepgorer “, ac eithrio yn rheoliad 5B,”;
(e) hepgorer y diffiniad o “plentyn”;
(f) yn y diffiniad o “gweithredwr” hepgorer “, ac eithrio yn rheoliad 5B,”;
(g) hepgorer y diffiniad o “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd”;
(h) hepgorer y diffiniad o “teithiwr rheoliad 2A”;
(i) hepgorer y diffiniad o “teithiwr perthnasol”;
(j) hepgorer y diffiniad o “hysbysiad gofynnol”;
(k) yn y diffiniad o “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol”, yn lle “6A(1)” rhodder “7(3)”;
(l) hepgorer y diffiniad o “unigolyn cyfrifol”;
(m) hepgorer y diffiniad o “teithiwr Atodlen 3A”.
12 
Yn lle rheoliadau 5, 5A, 5B, 5C a 5D rhodder—“
Gofyniad i weithredu a chynnal prosesau a systemau
5. 

(1) Rhaid i weithredwr weithredu a chynnal prosesau a systemau digonol i sicrhau bod teithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaethau teithwyr rhyngwladol—
(a) wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 6 (gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, os ydynt yn deithwyr y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw;
(b) yn meddu ar dystiolaeth eu bod yn berson a ddisgrifir yn Atodlen 5 (personau esempt), os ydynt yn honni eu bod yn berson o’r fath ar gyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(c) yn meddu ar hysbysiad gofynnol, os ydynt yn deithwyr y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 (y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negatif) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(d) yn meddu ar dystiolaeth o gymhwystra, os ydynt wedi nodi ar gyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra o ran brechu yn erbyn COVID-19.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid ystyrir ei bod yn ofynnol i deithiwr (“T”) gydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 6 neu 7 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol pe bai gan y gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, achos i gredu’n rhesymol—
(a) nad yw’n ofynnol i T gydymffurfio â’r gofyniad perthnasol,
(b) bod gan T esgus rhesymol a fyddai’n diogelu T rhag atebolrwydd am dorri’r gofyniad perthnasol o dan reoliad 13 (troseddau), neu
(c) bod T yn cael ei orfodi’n gyfreithlon i deithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs estraddodiad, dychweliad carcharor neu allgludiad.
(3) Rhaid i weithredwr gadw unrhyw gofnodion a gwybodaeth sy’n ofynnol i ddangos ei fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1).
(4) Caiff person awdurdodedig ofyn i weithredwr am gopïau o unrhyw gofnodion a gwybodaeth y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn ofynnol i benderfynu a yw’r gweithredwr wedi cydymffurfio â pharagraff (1).
(5) Rhaid i gais o dan baragraff (4) bennu’r cyfnod y mae rhaid i’r gweithredwr ddarparu’r cofnodion a’r wybodaeth y gofynnir amdanynt o’i fewn.
(6) Wrth benderfynu a yw gweithredwr wedi cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i berson awdurdodedig roi sylw i’r materion a ganlyn i’r graddau y mae ganddo wybodaeth amdanynt—
(a) y drefn a ddefnyddir gan y gweithredwr i gydymffurfio â pharagraff (1), ynghyd â’r dull o gadw tystiolaeth gyfredol;
(b) bodolaeth ac ansawdd unrhyw ganllawiau neu raglenni hyfforddi ar gyfer y rheini sy’n ymwneud â gweithredu’r prosesau a’r systemau o ddydd i ddydd;
(c) pa un a yw’r gweithredwr—
(i) wedi penodi cyswllt a enwir i gynorthwyo’r person awdurdodedig wrth benderfynu a yw’r gweithredwr wedi cydymffurfio â pharagraff (1), a
(ii) wedi hysbysu’r person awdurdodedig ynglŷn â phwy yw’r cyswllt hwnnw;
(d) cyflymder ac effeithiolrwydd unrhyw ymateb gan y gweithredwr i unrhyw argymhellion a wneir gan y person awdurdodedig y bwriedir iddynt sicrhau cydymffurfedd y gweithredwr â pharagraff (1);
(e) unrhyw fethiant i gydymffurfio â chais o dan baragraff (4);
(f) unrhyw fater arall y mae’r person awdurdodedig yn ystyried ei fod yn briodol.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “tystiolaeth o gymhwystra” yw—
(a) tystiolaeth a ddisgrifir yn rheoliad 3(3)(b), 3(4)(b) neu 3(6)(b) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol,
(b) pan fo T yn bwriadu manteisio ar yr esemptiad yn rheoliad 3(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (mae T o dan 18 oed), dystiolaeth o oedran T, neu
(c) cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n nodi mai statws brechu T yw: “Vaccine Status: Verified Exempt/Full.”
13 
Yn lle rheoliad 6 (troseddau) rhodder—“
Troseddau
6. 

(1) Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad—
(a) yn rheoliad 5(1),
(b) yn rheoliad 5(3), neu
(c) mewn cais o dan reoliad 5(4) i ddarparu cofnodion a gwybodaeth o fewn y cyfnod a bennir at ddibenion rheoliad 5(5),
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae trosedd o dan baragraff (1) i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.”
14 
Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 9 (pŵer i ddefnyddio ac i ddatgelu gwybodaeth), yn lle “6A, 6AB neu 12E(1)” rhodder “6 neu 7”.
15 
Yn rheoliad 10 (adolygu) yn lle “reoliadau 5, 5A, 5B, 5C a 5D” rhodder “reoliad 5”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2022