
2022 Rhif 149 (Cy. 47)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Gwnaed 17 Chwefror 2022
Yn dod i rym 18 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 a pharagraffau 12 ac 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (2E), yn lle “1 Mawrth 2022” rhodder “diwedd y cyfnod graddoli trosiannol”;
(b) ym mharagraff (3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion gwarchod planhigion.”
(3) Ym mhennawd Atodlen 2A, yn lle “1 Mawrth 2022” rhodder “ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
17 Chwefror 2022