
2022 Rhif 143 (Cy. 46)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022
Made 16 Chwefror 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 8 o Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ac adran 256(1) ohoni.

Yn unol ag adran 256(3) a (4)(ma) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Gwahardd rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant os nad oes tystysgrif perfformiad ynni wedi ei darparu
3 
Yn Atodlen 9A i’r Ddeddf (contractau meddiannaeth safonol: cyfyngiadau ar roi hysbysiadau penodol yn ceisio meddiant), ar ôl paragraff 3 mewnosoder—“
Methu â darparu tystysgrif perfformiad ynni ddilys
3A. 

(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a) a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b) sy’n ymwneud ag annedd y mae rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA (y gofyniad i roi tystysgrif perfformiad ynni ddilys i’r tenant) yn gymwys mewn perthynas â hi.
(2) Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, nid oes gwahaniaeth pryd y rhoddwyd y dystysgrif perfformiad ynni ddilys (ac nid oes dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif perfformiad ynni newydd gael ei rhoi i ddeiliad contract pan fo tystysgrif a roddwyd i’r deiliad contract hwnnw i gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw yn peidio â bod yn ddilys o dan y Rheoliadau PYA).
(4) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “y Rheoliadau PYA” (“the EPB Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/3118);mae “tystysgrif perfformiad ynni ddilys” (“valid energy performance certificate”) i’w dehongli yn unol â’r Rheoliadau PYA.”
Gwaharddiadau ar roi hysbysiad yn ceisio meddiant yn ymwneud ag iechyd a diogelwch
4 
Yn Atodlen 9A i’r Ddeddf, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—“
Methu â sicrhau bod larymau mwg a larymau carbon monocsid sy’n gweithio wedi eu gosod
5A. 

(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a) a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b) y mae rheoliad 5 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—
(a) pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 5(3) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â sicrhau bod larymau mwg sy’n gweithio ac, mewn rhai amgylchiadau, larymau carbon monocsid sy’n gweithio, wedi eu gosod mewn annedd), a
(b) pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.
Methu â chyflenwi adroddiad ar gyflwr trydanol etc.
5B. 

(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a) a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b) y mae rheoliad 6 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—
(a) pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 6(6) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â chael adroddiad ar gyflwr trydanol, neu fethu â rhoi adroddiad o’r fath neu gadarnhad ysgrifenedig o waith trydanol arall penodol i ddeiliad y contract), a
(b) pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.
Methu â darparu adroddiad ar ddiogelwch nwy i ddeiliad y contract
5C. 

(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a) a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b) y mae rheoliad 36 o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (yn ôl y digwydd) (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy (gofyniad i ddarparu neu arddangos adroddiad ar ddiogelwch etc. gosodiadau nwy).
(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae landlord nad yw wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy i’w drin fel pe bai yn cydymffurfio â’r ddarpariaeth o dan sylw ar unrhyw adeg pan fo—
(a) y landlord wedi sicrhau y rhoddwyd copi o gofnod diogelwch nwy i ddeiliad y contract, neu (yn ôl y digwydd) bod copi ohono wedi ei arddangos mewn lle amlwg yn yr annedd, a
(b) bod y cofnod yn ddilys.
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cofnod diogelwch nwy yn ddilys hyd ddiwedd y cyfnod y mae’n ofynnol unwaith eto i’r cyfarpar neu’r ffliw y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef fod yn ddarostyngedig i wiriad diogelwch o dan y Rheoliadau Diogelwch Nwy.
(5) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “cofnod diogelwch nwy” (“gas safety record”) yw cofnod a wnaed yn unol â gofynion rheoliad 36(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy;ystyr “gwiriad diogelwch” (“check for safety”) yw gwiriad diogelwch a gynhelir yn unol â rheoliad 36(3) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy;ystyr “Rheoliadau Diogelwch Nwy” (“Gas Safety Regulations”) yw Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 (O.S. 1998/2451).”
Diwygiadau cysylltiedig i Atodlen 9A i’r Ddeddf
5 

(1) Mae Atodlen 9A i’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1—
(a) daw’r testun presennol yn is-baragraff (2);
(b) o flaen yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a) a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b) sy’n ymgorffori adran 31.”
(3) Ym mharagraff 2—
(a) daw’r testun presennol yn is-baragraff (2);
(b) o flaen yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a) a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b) sy’n ymgorffori adran 31.”
(4) Ym mharagraff 3—
(a) daw’r testun presennol yn is-baragraff (2);
(b) o flaen yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a) a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b) sy’n ymgorffori adran 39.”
(5) Ym mharagraff 4, ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—“
(6) Mae is-baragraff (1) wedi ei ymgorffori yn unig fel un o delerau contract a grybwyllir ym mharagraff 7(1) sy’n ymgorffori adran 43.”
(6) Ym mharagraff 7(1), ar ôl “darpariaeth sylfaenol sydd” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn Rhan 1,”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2022