
2022 Rhif 142 (Cy. 45)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 16 Chwefror 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17 Chwefror 2022
Yn dod i rym 18 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Chwefror 2022.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn lle “25 Chwefror 2022” rhodder “28 Mawrth 2022”.
(3) Yn rheoliad 10—
(a) yn lle paragraff (5)(a) rhodder—“
(a) sydd wedi cwblhau cwrs o ddosau—
(i) o frechlyn awdurdodedig, neu
(ii) o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,
a bod y diwrnod y cafodd y person y cysylltiad agos a arweiniodd at yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) yn fwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cwblhaodd y person y cwrs hwnnw o ddosau, a”;
(b) yn lle paragraff (7) rhodder—“
(7) At ddibenion paragraff (5)—
(a) mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig—
(i) os yw’r person wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—(aa) yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu(bb) yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
(ii) os yw’r person wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol;
(iii) os yw’r person wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw frechlyn y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(b) mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor—
(i) os yw’r person wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o frechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw;
(ii) os yw’r person wedi cael dos o un brechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor a dos o frechlyn gwahanol o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor;
(iii) os yw’r person wedi cael dos o frechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.”
(c) ym mharagraff (8)—
(i) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) mae i “brechlyn awdurdodedig” yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022;”;
(iii) yn is-baragraff (d), yn lle “i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012” rhodder “yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”;
(iv) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) mae i “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.”
(4) Hepgorer rheoliad 10C.
(5) O flaen rheoliad 11 mewnosoder—“
Darpariaeth drosiannol: gofynion ynysu
10D. 
Pan—
(a) bo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 8(2) (“y gofyniad i P ynysu”) yn union cyn 18 Chwefror 2022, a
(b) pe bai P wedi cael hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, byddai P (oherwydd cymhwyso rheoliad 10(5) fel y’i diwygir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022) yn cael ei eithrio rhag y gofyniad i beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 8(2),mae’r gofyniad i P ynysu yn peidio â bod yn gymwys ar ddechrau 18 Chwefror 2022.”
(6) Hepgorer rheoliad 16A.
(7) Yn rheoliad 18(1), hepgorer “neu 16A(1)”.
(8) Yn rheoliad 25(3)(a)(i), hepgorer “neu 16A(1)”.
(9) Yn rheoliad 26, yn lle “rheoliadau 16(1) ac 16A(1)” rhodder “rheoliad 16”.
(10) Hepgorer rheoliad 30A.
(11) Hepgorer rheoliad 40A.
(12) Yn Atodlen 8—
(a) ym mharagraff 1—
(i) yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “neu 16A”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “neu 16A”;
(b) ym mharagraff 2—
(i) yn is-baragraff (3)(a), hepgorer “neu 16A”;
(ii) yn is-baragraff (4)(b)(ii), hepgorer “neu 16A”;
(iii) yn is-baragraff (4)(c), hepgorer “neu 16A”;
(c) ym mharagraff 3(3)(c), hepgorer “neu 16A”;
(d) ym mharagraff 4(1)(b), hepgorer “neu 16A”.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020
3 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, yn lle “25 Chwefror 2022” rhodder “28 Mawrth 2022”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2022