
2022 Rhif 140 (Cy. 44)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 16 Chwefror 2022
Yn dod i rym 18 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 80(2)(c) ac adran 82(2) a (3)(a) a (d) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r Rheoliadau hyn, ac wedi rhoi hysbysiad i’r prif gynghorau yn ardal Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain ac i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain o’u bwriad i wneud y Rheoliadau.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Chwefror 2022.
Diwygio Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021
2 

(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (cychwyn darpariaethau sy’n rhoi swyddogaethau penodol i’r cyd-bwyllgor corfforedig)—
(a) yn lle “28 Chwefror” rhodder “30 Mehefin”, a
(b) yn is-baragraff (d) hepgorer “11,”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2022