
2022 Rhif 1333 (Cy. 270)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022Gofynion sifftio wedi eu bodloni12 Rhagfyr 2022
Gwnaed 13 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2022.
Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012
2 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff A1 (dehongli)—
(i) yn y diffiniad o “pla cwarantin parth gwarchodedig”, yn lle ““pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”)” rhodder ““pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu” (“PFA quarantine pest”)”;
(ii) yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;
(iii) yn y diffiniad o “pla cwarantin yr Undeb”, yn lle ““pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”)” rhodder ““pla cwarantin Prydain Fawr” (“GB quarantine pest”)”.
(b) ym mharagraffau 15, 28, 42 a 50 (gofynion cnydau a hadau), ym mhob lle y maent yn digwydd—
(i) yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu”;
(ii) yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.
Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017
3 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
Dirymu
4 
Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2022