
2022 Rhif 1327 (Cy. 268)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi eu Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 14 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym 18 Ionawr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi eu Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Ionawr 2023.
Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004
2 

(1) Mae Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4 (sylweddau maethol)—
(a) ym mharagraff 1 (fitaminau) ar ôl “Asid ffolig” mewnosoder “Calsiwm-L-methylffolad”; a
(b) ym mharagraff 4 (halwynau mwynau ac elfennau hybrin)—
(i) ar ôl “Carbonad fferrus” mewnosoder “Bisglycinad fferrus”; a
(ii) ar ôl “Zinc asetad” mewnosoder “Zinc clorid”.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2022