
2022 Rhif 1317 (Cy. 266)
Bwyd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022
Gwnaed 13 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) paragraff 2 o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion; a
(b) paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.

Yn unol ag Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, mae Gweinidogion Cymru, cyn gwneud y Rheoliadau hyn, wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol a’r cyrff a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru;
(c) yn dod i rym ar 30 Rhagfyr 2022.
Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021
2 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 (diwedd y cyfnod graddoli trosiannol) rhodder—“
End of the transitional staging period
2. 
In relation to Wales, for the purposes of sub-paragraph (b) of the definition of “the transitional staging period” in paragraph 2 (interpretation) of Annex 6 to Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products, the appointed date is 31 January 2024.”.
Diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
3 
Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r EU) 2021, yn lle “31 Rhagfyr 2022” rhodder “31 Ionawr 2024”.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2022