
2022 Rhif 1316 (Cy. 265)
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 13 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym 1 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4), 93 a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2023.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi
3 
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a) y gyfradd safonol yw £102.10 y dunnell,
(b) y gyfradd is yw £3.25 y dunnell, ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £153.15 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021, ar ôl “1 Ebrill 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2023”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2022