
2022 Rhif 13 (Cy. 7)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022
Gwnaed 5 Ionawr 2022
Yn dod i rym 7 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 a wnaed o dan adran 37(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r camgymeriad hwnnw ac yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pŵer a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
Diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021
2 

(1) Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn (3), yn lle “Cymuned Marchwiel” rhodder “Cymunedau Erbistog, Marchwiel a Sesswick”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
5 Ionawr 2022