
2022 Rhif 1276 (Cy. 259)
Hadau, Cymru
Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022
Gwnaed 5 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 7 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddir gan adran 16(1) i (4) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 wedi eu breinio bellach ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos i’r Gweinidogion yn rhai cysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2022.
Diwygio Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC
2 

(1) Mae Penderfyniad y Cyngor 2003/17 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 6, yn lle “31 December 2022” rhodder “31 December 2029”.
Lesley Griffiths
Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2022