2022 Rhif 1259 (Cy. 257)
Dyframaethu, Cymru
Pysgodfeydd, Cymru
Amgylchedd Morol, Cymru
Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
Gwnaed 30 Tachwedd 2022
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

Yn unol ag adran 51(4)(c) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cychwyn, rhychwant a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran—
(i) Cymru;
(ii) parth Cymru;
(iii) cychod pysgota Cymreig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “a bennir” (“specified”) yw a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys mewn unrhyw ddogfennaeth a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu a ddarperir ganddynt fel arall;
 ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
(a) sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995, a
(b) y mae ei gofnod yn y gofrestr yn pennu porthladd yng Nghymru sydd i’w drin fel yr un y mae’r cwch yn perthyn iddo;
 ystyr “hysbysedig” (“notified”) yw hysbysedig yn ysgrifenedig;
 mae “ysgrifenedig” (“writing”) yn cynnwys cyfathrebiadau electronig o fewn ystyr adran 15(1) (dehongli cyffredinol) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000, a gofnodwyd ac y gellir felly eu hatgynhyrchu.
RHAN 2 Sefydlu’r Cynllun
Sefydlu’r Cynllun
3 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu Cynllun i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol o dan baragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.
(2) Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn cyfansoddi’r Cynllun.
RHAN 3 Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru
Talu grantiau a gwneud benthyciadau
4 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru, yn unol â’r Cynllun hwn, dalu grantiau neu wneud benthyciadau, mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant neu wneud benthyciad o dan baragraff (1) i unrhyw berson—
(a) sydd wedi gwneud cais am grant neu fenthyciad, a
(b) y mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo ei gais.
Hysbysebu a chanllawiau
5 
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) hysbysebu’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael o dan y Cynllun hwn, a
(b) darparu canllawiau ar gwblhau ceisiadau.
Cais am grant neu fenthyciad
6 

(1) Rhaid i gais am grant neu fenthyciad o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf a bennir, cael ei gyflwyno yn y ffordd a bennir a chynnwys yr wybodaeth a bennir.
(2) Rhaid i gais gael ei wneud o fewn unrhyw derfyn amser a bennir.
(3) Rhaid i geisydd ddarparu unrhyw ddogfennau eraill neu unrhyw wybodaeth arall a bennir pan ddaw’r cais i law neu ar ôl hynny.
Penderfyniad a hysbysiad
7 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) gwrthod cais neu wrthod cymeradwyo cais, neu
(b) cymeradwyo cais yn llawn neu’n rhannol, yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i’r amodau a nodir ganddynt.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
Tystiolaeth o wariant etc.
8 

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson o dan y Cynllun hwn oni bai eu bod yn fodlon bod y person wedi mynd i wariant, neu yr aiff i wariant, yn briodol a bod y gwariant hwnnw yn wariant y telir y grant neu’r benthyciad yn ei gylch a’i fod wedi cydymffurfio, neu y gwnaiff gydymffurfio, ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth gymeradwyo’r grant neu’r benthyciad.
(2) At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu gwybodaeth yn dangos tystiolaeth o wariant neu unrhyw gamau angenrheidiol yn ymwneud â’r grant neu’r benthyciad.
Dull o dalu
9 
Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant neu wneud benthyciad o dan y Cynllun hwn yn unol â’r rhandaliadau ac ar yr adeg a nodir ganddynt.
Cofnodion, edrych ar gofnod a hysbysiad am newidiadau
10 
Un o amodau talu unrhyw grant a gwneud benthyciadau yw bod rhaid i’r person y gwneir y taliad iddo—
(a) gwneud cofnod o’r holl daliadau grant neu fenthyciad a wneir a’r holl wariant y gwneir taliadau o’r fath yn ei gylch,
(b) cadw unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) am chwe blynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y gwnaed y taliad olaf,
(c) yn dilyn hysbysiad rhesymol gan Weinidogion Cymru, sicrhau bod unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ar gael i edrych arno, a
(d) hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau sy’n berthnasol i dalu’r grant neu’r benthyciad.
Amrywio, atal dros dro a dirymu cymeradwyaeth
11 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg cyn i’r grant neu’r benthyciad gael ei dalu’n llawn, atal dros dro neu ddirymu’r gymeradwyaeth, yn llawn neu’n rhannol, neu amrywio amod sy’n gysylltiedig â’r gymeradwyaeth (gan gynnwys ychwanegu neu ddileu amodau).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
Y weithdrefn ar gyfer gwneud sylwadau mewn cysylltiad â phenderfyniad hysbysedig
12 

(1) Caiff y ceisydd wneud sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad hysbysedig o dan reoliad 7(2) neu 11(2).
(2) Caniateir pennu ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae rhaid gwneud sylwadau, gan gynnwys y dogfennau neu’r wybodaeth arall sy’n ofynnol, a’r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad yn dilyn sylwadau a wneir o dan baragraff (1).
Hysbysiad am adennill taliad
13 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu unrhyw ran o grant neu fenthyciad a dalwyd i berson o dan y Cynllun hwn.
(2) Cyn rhoi hysbysiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni—
(a) bod y cais a gymeradwywyd y gwnaed y taliad yn ei gylch, neu unrhyw wybodaeth ategol a ddarparwyd gan y ceisydd mewn perthynas ag ef, yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn anghywir neu’n gamarweiniol,
(b) bod unrhyw swm a dalwyd ar ffurf grant neu fenthyciad wedi cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben heblaw y diben y’i talwyd ar ei gyfer, neu
(c) na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r amodau y cymeradwywyd y cais yn unol â hwy, neu y talwyd y grant neu’r benthyciad yn unol â hwy, neu na ellir cydymffurfio â hwy.
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i’r person ad-dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad o fewn cyfnod a bennir, nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Pan na chaiff unrhyw ran o’r swm a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) ei had-dalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru adennill y swm hwnnw sydd heb ei ad-dalu yn ddiannod fel dyled sifil.
Gorfodi
14 

(1) Mae gan swyddog gorfodi morol swyddogaeth orfodi mewn perthynas ag unrhyw drosedd neu drosedd a amheuir (er enghraifft, trosedd o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006) gan unrhyw berson mewn perthynas â chais am grant neu fenthyciad a wneir o dan y Cynllun hwn.
(2) Mae adran 238 (gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth a roddir gan baragraff (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “y ddeddfwriaeth pysgodfeydd” yr un ystyr ag a roddir i “the fisheries legislation” yn adran 238(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
 mae i “swyddog gorfodi morol” yr un ystyr ag a roddir i “marine enforcement officer” yn adran 235(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2022
YR ATODLEN
Gweithgareddau y caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau ar eu cyfer o dan y Cynllun hwn
Rheoliad 4(1)
RHAN 1
At ddibenion gwarchod, gwella neu adfer yr amgylchedd morol a dyfrol
1 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2 
Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4 
Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
5 
Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
6 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
7 
Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
8 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
9 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
10 
Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
11 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
12 
Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
RHAN 2
At ddiben hyrwyddo neu ddatblygu gweithgareddau dyframaethu neu bysgod masnachol
1 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2 
Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4 
Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5 
Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6 
Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7 
Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9 
Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
10 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
11 
Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
12 
Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
13 
Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
14 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
15 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
16 
Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
17 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
18 
Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
RHAN 3
At ddiben ad-drefnu busnesau sydd ynghlwm wrth weithgareddau dyframaethu neu bysgod masnachol

RHAN 4
At ddiben cyfrannu at dreuliau personau sydd ynghlwm wrth weithgareddau dyframaethu neu bysgod masnachol
1 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2 
Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4 
Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5 
Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6 
Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7 
Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9 
Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
10 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
11 
Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
12 
Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
13 
Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
14 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
15 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
16 
Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
17 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
18 
Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
RHAN 5
At ddiben cynnal neu wella iechyd a diogelwch unigolion sydd ynghlwm wrth weithgareddau dyframaethu neu bysgod masnachol
1 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2 
Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4 
Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5 
Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
6 
Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
RHAN 6
At ddiben hyfforddi unigolion sydd ynghlwm wrth weithgareddau dyframaethu neu bysgod masnachol, a oedd ynghlwm wrthynt neu sy’n bwriadu bod ynghlwm wrthynt, neu sy’n aelodau o deuluoedd unigolion o’r fath
1 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2 
Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4 
Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5 
Gweithgareddau i gefnogi arallgyfeirio busnesau.
6 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
7 
Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
8 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
9 
Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
10 
Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
11 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
12 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
13 
Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
14 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
15 
Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
RHAN 7
At ddiben datblygu economaidd neu welliant cymdeithasol ardaloedd lle cyflawnir gweithgareddau dyframaethu neu bysgod masnachol
1 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2 
Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4 
Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5 
Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6 
Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7 
Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9 
Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
10 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
11 
Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
12 
Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
13 
Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
14 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
15 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
16 
Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
17 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
18 
Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
RHAN 8
At ddiben gwella’r trefniadau ar gyfer defnyddio cwotâu dal neu gwotâu ymdrech
1 
Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2 
Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3 
Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
4 
Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
5 
Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
6 
Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
7 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
8 
Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
9 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
10 
Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
11 
Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
RHAN 9
At ddiben hyrwyddo neu ddatblygu pysgota hamdden