
2022 Rhif 1258 (Cy. 256)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022
Gwnaed am 10.30 a.m. ar 30 Tachwedd 2022
Yn dod i rym am 11.00 p.m. ar 30 Tachwedd 2022.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 255 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a pharagraff 33 o Atodlen 12 iddi.

Yn unol ag adran 256(3) a (4)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 11.00 p.m. ar 30 Tachwedd 2022.
Diwygiadau i Atodlen 12
2 
Mae Atodlen 12 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
3 
Ym mharagraff 13B, ar ôl “gontract safonol cyfnodol” mewnosoder “y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat ac”.
4 
Ym mharagraff 15, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae adrannau 104 ac 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)(a) ym mhob un o’r adrannau hyn—“
(a) ni chaiff yr hysbysiad cyntaf a roddir ar ôl y diwrnod penodedig bennu dyddiad sy’n gynharach na 51 o wythnosau ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf, a”.”
5 
Ym mharagraff 25A(2), yn lle paragraff (a), rhodder—“
(a) y cyfeiriad yn adran 174(1) (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir) at “chwe mis”, mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan adran 173 yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, yn gyfeiriad at “dau fis”, a”.
Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022
6 
Yn rheoliad 10 (pennu’r rhent) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022, yn lle paragraff (6), rhodder—“
(6) Mae paragraffau 15(1) a 15(1A) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau rhent sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
Am 10.30 a.m. ar 30 Tachwedd 2022