
2022 Rhif 1214 (Cy. 251)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 21 Tachwedd 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 23 Tachwedd 2022
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2022.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (ffigurau poblogaeth oedolion) rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Tachwedd 2022
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 53,740
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr 116,158
Caerphilly/Caerffili 139,349
Cardiff/Caerdydd 288,491
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin 151,156
Ceredigion 60,035
Conwy 93,956
Denbighshire/Sir Ddinbych 76,666
Flintshire/Sir y Fflint 123,975
Gwynedd 95,528
Isle of Anglesey/Ynys Môn 55,653
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful 46,390
Monmouthshire/Sir Fynwy 76,143
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot 114,003
Newport/Casnewydd 123,654
Pembrokeshire/Sir Benfro 99,829
Powys 109,706
Rhondda Cynon Taf 188,246
Swansea/Abertawe 192,657
Torfaen 73,027
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg 104,345
Wrexham/Wrecsam 107,148”