
2022 Rhif 1202 (Cy. 247) (C. 93)
Gwasanaethau Iechyd, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022
Gwnaed am 12.48 p.m. ar 18 Tachwedd 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 186(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022.
Enwi
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 22 Tachwedd 2022
2 
Daw adran 161(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022 i rym ar 22 Tachwedd 2022.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.48 p.m. ar 18 Tachwedd 2022