
2022 Rhif 1201 (Cy. 246) (C. 92)
Gwasanaethau Iechyd, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Deddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022
Gwnaed am 11.43 a.m. ar 18 Tachwedd 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 12(2) o Ddeddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 21 Tachwedd 2022
2 
Daw adran 2 o Ddeddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 i rym ar 21 Tachwedd 2022.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 11.43 a.m. ar 18 Tachwedd 2022