Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/907 (Cy. 198) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2022 Rhif 1077 (Cy. 228)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022
Gwnaed 24 Hydref 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Hydref 2022
Yn dod i rym 30 Tachwedd 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 255 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2022.
Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022
2 

(1) Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016)—
(a) yn lle’r pennawd i baragraff 3 (Tenantiaethau Sicr (Hysbysiad i’r Tenant) 1981), yn y testun Cymraeg, rhodder “Rheoliadau Tenantiaethau Sicr (Hysbysiad i’r Tenant) 1981”;
(b) ym mharagraff 19 (Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997) yn is-baragraffau (b)(ii) a (iii), hepgorer “monthly”;
(c) ym mharagraff 20 (Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (Cynlluniau Buddsoddi Torfol) 2001), yn is-baragraff (a), yn lle “paragraff”, rhodder “is-baragraff”;
(d) ym mharagraff 21 (Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003), yn y testun Saesneg, yn lle is-baragraff (a), rhodder—“
(a) in regulation 2 (interpretation)—
(i) after the definition of “the Common Travel Area”, omit “and”;
(ii) for the full stop at the end of the definition of “the immigration rules”, substitute “; and”;
(iii) after the definition of “the immigration rules”, insert—“
 “secure contract” (“contract diogel”) has the same meaning as in the Renting Homes (Wales) Act 2016 (see section 8 of that Act).””;
(e) ym mharagraff 30 (Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016), ym mharagraff (b), yn y troednodyn i Ddeddf Tai 1985, yn lle “o Ddeddf Tai 1989”, rhodder “o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989”.
(3) Yn Atodlen 2 (dirymiadau), yn y pennawd “Tabl 1”, hepgorer “1”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2022