
2022 Rhif 106 (Cy. 37)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022
Gwnaed 4 Chwefror 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Chwefror 2022
Yn dod i rym 7 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 63(3) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022 a deuant i rym ar 7 Mawrth 2022.
Diwygio rheoliad 31(5)(a) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004
2 
Yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004, yn rheoliad 31(5)(a) (seiliau ychwanegol dros wrthod), yn lle’r geiriau o “section 15(1)(b) of the Dentists Act (registration of nationals of member States who hold appropriate European diplomas)” hyd at y diwedd rhodder “section 15(1)(c) of the Dentists Act (any person who holds a recognised overseas diploma) within the meaning given in section 15(2) and (2ZA) of that Act”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Chwefror 2022