
2022 Rhif 1058 (Cy. 223)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 12 Hydref 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17 Hydref 2022
Yn dod i rym 7 Tachwedd 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 17 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2022.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio rheoliad 3 (dehongli)
3 
Yn rheoliad 3(1)—
(a) yn y diffiniad o “corff llywodraethu”, ar y diwedd mewnosoder “ac mewn perthynas ag ysgol berthnasol sy’n uned cyfeirio disgyblion, mae’n cynnwys pwyllgor rheoli’r uned cyfeirio disgyblion (os oes un)”;
(b) yn y diffiniad o “pennaeth”, ar y diwedd mewnosoder “a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion”;
(c) yn y diffiniad o “diwrnod gwaith”—
(i) ar ôl “dydd Sul” mewnosoder “, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith”, a
(ii) ar ôl “ŵyl banc” mewnosoder “yng Nghymru a Lloegr”;
(d) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr un ystyr ag sydd i “pupil referral unit” yn adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996;”.
Diwygio rheoliad 5 (corff priodol)
4 
Yn rheoliad 5(1)—
(a) yn is-baragraff (a)—
(i) hepgorer “neu” ar ôl “ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig,”, a
(ii) ar ôl “(ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998)” mewnosoder “, neu uned cyfeirio disgyblion”;
(b) hepgorer is-baragraff (b).
Rheoliadau newydd 6A a 6B
5 
Ar ôl rheoliad 6 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu) mewnosoder—“
Terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol
6A. 

(1) Rhaid i gyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diweddaraf o blith y dyddiad pan ddyfernir statws athro neu athrawes gymwysedig, neu 7 Tachwedd 2022 (“y terfyn amser”).
(2) Ond pan fo’r corff priodol yn estyn y terfyn amser yn unol â rheoliad 6B, rhaid i’r cyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn y terfyn amser estynedig.
Estyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol
6B. 

(1) Rhaid i’r corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod estynedig, wedi dod i ben ai peidio) pan—
(a) bo cyfnod sefydlu’r person hwnnw yn cael ei estyn yn unol â rheoliad 10, 13(2)(b), 16(2)(c) neu (3)(c), a
(b) na fo digon o amser ar gael o fewn y terfyn amser i’r corff priodol wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 13(2).
(2) Caiff y corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod o estyniad, wedi dod i ben ai peidio) pan fo wedi ei fodloni bod rhesymau da dros wneud hynny a phan fo’r person yn cydsynio i hynny.
(3) Ni chaiff estyniad, neu gyfanswm cyfnod yr estyniad pan fo mwy nag un, fod yn hwy na 2 flynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y daeth y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) i ben, onid yw’n angenrheidiol yn rhinwedd paragraff (1).
(4) Rhaid i’r corff priodol, o fewn 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr estynnwyd y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) o dan baragraff (1) neu (2), anfon hysbysiad ysgrifenedig o’r estyniad at—
(a) y person o dan sylw,
(b) pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol berthnasol neu goleg AB, y corff llywodraethu a’r pennaeth,
(c) pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol annibynnol, y perchennog a’r pennaeth,
(d) pan na fo’r person yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, unrhyw gyflogwr arall (os nad oes hawl ganddo i gael hysbysiad o dan (b) neu (c)), ac
(e) y Cyngor.
(5) Ceir rhoi hysbysiad o dan baragraff (4) drwy ffacs, y post electronig neu ddull cyffelyb arall sydd â chyfleuster i gynhyrchu dogfen sy’n cynnwys testun y cyfathrebiad, a rhaid ystyried bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o’r fath wedi ei roi pan ddaw i law mewn ffurf ddarllenadwy.”
Diwygio rheoliad 7 (sefydliadau y ceir ymgymryd â chyfnod sefydlu ynddynt)
6 
Yn rheoliad 7, hepgorer paragraff (2)(b) a’r “, neu” o’i flaen.
Diwygio rheoliad 8 (hyd cyfnod sefydlu)
7 
Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “(3) a (4)” rhodder “(3), (4) ac (8)”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”,
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “; neu”, a
(iii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) pan fo paragraff (8) yn gymwys.”;
(c) ym mharagraff (4)(b) yn lle “ym mhob achos arall” rhodder “pan fo paragraff (3)(a), (b), (c) neu (e) yn gymwys”;
(d) ar y diwedd mewnosoder—“
(8) Caiff y corff priodol, gyda chydsyniad y person o dan sylw, leihau hyd y cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o un tymor ysgol neu 110 o sesiynau ysgol os yw’r corff priodol wedi ei fodloni bod y person wedi cyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.”
Diwygio rheoliad 13 (cwblhau cyfnod sefydlu)
8 
Yn rheoliad 13(4), yn lle “dri” rhodder “10”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Hydref 2022