
2021 Rhif 996 (Cy. 232)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021
Made 6 Medi 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Medi 2021
Yn dod i rym 29 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 29 Medi 2021.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn)(Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2)(a), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.
(3) Yn rheoliad 2(2), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.
(4) Yn rheoliad 4(a), yn lle “1 Hydref 2021” rhodder “1 Hydref 2022”.
(5) Yn rheoliad 4(b), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2021