
2021 Rhif 977 (Cy. 231)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Gwnaed 2 Medi 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3 Medi 2021
Yn dod i rym 29 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Medi 2021.
Diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
2 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021, yn lle “30 Medi 2021” rhodder “31 Rhagfyr 2021”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
2nd September 2021