
2021 Rhif 970 (Cy. 228)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 2.40 p.m. ar 27 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.30 p.m. ar 27 Awst 2021
Yn dod i rym 28 Awst 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Awst 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(1), o dan y pennawd “Cam 3”, yn is-baragraff (a)(ii), yn lle “sydd wedi cael cysylltiad agos yn y 10 niwrnod blaenorol â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws” rhodder “y mae’n ofynnol iddo beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 8(2)”.
(3) Yn rheoliad 18A(2)—
(a) hepgorer is-baragraff (a);
(b) yn is-baragraff (b), yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “mesurau eraill sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal” rhodder “mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio corfforol agos rhwng personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad, yn benodol rhyngweithio wyneb yn wyneb, a mesurau i gynnal”.
(4) Yn rheoliad 20(2), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) pan fo P yn mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;”.
(5) Hepgorer Rhan 6.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.40 p.m. ar 27 Awst 2021