
2021 Rhif 967 (Cy. 227)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021
Gwnaed am 1.30 p.m. ar 27 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.30 p.m. ar 27 Awst 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 30 Awst 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 30 Awst 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 12E
3 

(1) Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)(e)—
(a) ym mharagraff (i), yn lle “2020” rhodder “2021”;
(b) ym mharagraff (ii), yn lle “ysgol fyrddio yng Nghymru y bwriedir darparu addysg a llety ar gyfer P ynddi” rhodder “sefydliad addysgol yng Nghymru y bwriedir darparu addysg a llety ar gyfer P ynddo”.
(3) Ym mharagraff (5)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “ystyr “ysgol fyrddio” yw ysgol neu goleg” rhodder “ystyr “sefydliad addysgol” yw ysgol, coleg neu ddarparwr addysg uwch”;
(b) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(d) mae i “darparwr addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education provider” yn adran 83(1) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.”
Diwygiadau i Atodlen 3
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Canada”“
 Denmarc”“
 Y Ffindir”“
 Liechtenstein”“
 Lithwania”“
 Y Swistir”“
 Ynysoedd Açores”.
Diwygiadau i Atodlen 3A
5 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Gwlad Thai”“
 Montenegro”.
Diwygiad i Atodlen 4
6 
Yn Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig), ar y diwedd mewnosoder—“Cystadleuaeth y Champions Hockey LeagueRowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd FIH i Ddynion (grŵp Ewropeaidd)”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 1.30 p.m. ar 27 Awst 2021