
2021 Rhif 952 (Cy. 217)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2021
Gwnaed 23 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 26 Awst 2021
Yn dod i rym 30 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 82(12) o Ddeddf y Coronafeirws 2020.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2021.
Estyn y cyfnod perthnasol sy’n darparu gwarchodaeth rhag fforffediad etc.
2 
At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period”, fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn gorffen, o ran Cymru, â 25 Mawrth 2022.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
23 Awst 2021