
2021 Rhif 95 (Cy. 26)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 1.57 p.m. ar 28 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.45 p.m. ar 28 Ionawr 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 29 Ionawr 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
(b) ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegu gwledydd at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn Atodlen 3A
2 
Yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—“
 Yr Emiraethau Arabaidd Unedig”“
 Gweriniaeth Burundi”“
 Gweriniaeth Rwanda”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 
Nid yw rheoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
RHAN 3 Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau
Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau
4 

(1) Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11AA—
(a) yn y pennawd, yn lle “15 Ionawr” rhodder “29 Ionawr”;
(b) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “15 Ionawr” rhodder “29 Ionawr”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “15 Ionawr” rhodder “29 Ionawr”;
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig—
(a) Gweriniaeth Burundi;
(b) Gweriniaeth Rwanda;
(c) Yr Emiraethau Arabaidd Unedig.”;
(d) hepgorer paragraff (5).
RHAN 4 Diwygiadau Amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
5 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1A—
(a) yn lle “6A(4)(a)” rhodder “6A(4)(c)”;
(b) hepgorer paragraff (a).
(3) Ym mharagraff 7(2) o Atodlen 2, hepgorer “a pharagraff 8”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 1.57 p.m. ar 28 Ionawr 2021