
2021 Rhif 926 (Cy. 211)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 4) 2021
Gwnaed am 2.15 p.m. ar 6 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.00 p.m. ar 6 Awst 2021
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 4) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 7, i rym am 4.00 a.m. ar 8 Awst 2021.
(3) Daw rheoliad 7 i rym ar 23 Awst 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.
Diwygiad i reoliad 2A
3 
Yn rheoliad 2A(2), hepgorer “neu Ffrainc Fetropolitanaidd”.
Diwygiadau i Atodlen 3
4 
Yn Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn Rhan 1, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Yr Almaen”“
 Awstria”“
 Latfia”“
 Norwy”“
 Rwmania”“
 Slofacia”“
 Slofenia”.
Diwygiadau i Atodlen 3A
5 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Georgia”“
 Mayotte”“
 Mecsico”“
 Réunion”;
(b) hepgorer—“
 Bahrain”“
 Yr Emiraethau Arabaidd Unedig”“
 India”“
 Qatar”.
Diwygiad i Atodlen 1E
6 
Yn Atodlen 1E (digwyddiadau profi penodedig), yn y lle priodol mewnosoder “R & A – Cwpan Curtis”.
Diwygiadau i Atodlen 1C
7 

(1) Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (b)(ii) o baragraff 1 (gofynion prawf diwrnod 2)—
(a) ar ôl “sy’n fwy na 99%” mewnosoder “neu’n gyfwerth â hynny”;
(b) yn lle “a chyfwng” rhodder “neu gyfwng”.
(3) Yn lle paragraff 2 (gofynion prawf diwrnod 8) rhodder—“
Gofynion prawf diwrnod 8
2. 
Mae prawf diwrnod 8 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—
(a) pan fo’n brawf lled-feintiol ar gyfer canfod y coronafeirws—
(i) sy’n targedu o leiaf ddau enyn SARS-CoV-2 y gellir gwahaniaethu rhyngddynt ac eithrio’r genyn S a rheolaethau cyfeirio perfformiad,
(ii) sy’n cynnwys rheolwaith sicrwydd in silico yn erbyn pob amrywiolyn sy’n destun pryder, a
(iii) sy’n cynhyrchu toddiant prawf sy’n darparu asid niwclëig a echdynnwyd sy’n addas ar gyfer dilyniannu genom cyfan gan ddefnyddio dull penodedig,
(b) pan fo gweithgynhyrchydd unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn datgan—
(i) bod y ddyfais yn defnyddio dull sefydledig o ganfod moleciwlau,
(ii) bod gan y ddyfais benodolrwydd sy’n fwy na 97% neu’n gyfwerth â hynny (neu gyfwng hyder dwyochrog o 95% sydd uwchben 95% yn llwyr),
(iii) bod gan y ddyfais sensitifrwydd sy’n fwy na 95% neu’n gyfwerth â hynny (neu gyfwng hyder dwyochrog o 95% sydd uwchben 90% yn llwyr),
(iv) bod gan y ddyfais derfyn canfod o lai na 1000 copi SARS-CoV-2 y mililitr, neu gyfwerth â hynny, a
(v) bod y ddyfais yn addas ar gyfer canfod pob amrywiolyn sy’n destun pryder, ac
(c) pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf—
(i) yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig, a
(ii) wedi ei dilysu ddim mwy na 18 mis cyn gweinyddu’r prawf neu ei ddarparu i P.”
Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
8 
Yn rheoliad 5C o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021, hepgorer paragraff (4).
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.15 p.m. ar 6 Awst 2021