
2021 Rhif 916 (Cy. 209)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2021
Gwnaed 1 Awst 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3 Awst 2021
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 71, 76(9) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2021 ymlaen.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
Diwygio rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol
2 
Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£58.87” rhodder “£59.98”, a
(b) yn lle “£21.31” rhodder “£21.71”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Awst 2021