
2021 Rhif 867 (Cy. 203)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021
Gwnaed 19 Gorffennaf 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 20 Gorffennaf 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 11.00 a.m. ar 20 Gorffennaf 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Gorffennaf 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2A(2), ar ôl “Atodlen 3A”, mewnosoder “neu Ffrainc Fetropolitanaidd”.
4 
Yn Atodlen 1, mae paragraff 3 fel y’i mewnosodir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021wedi ei ailrifo yn baragraff 3A.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Gorffennaf 2021