
2021 Rhif 860 (Cy. 199)
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 15 Gorffennaf 2021
Yn dod i rym 1 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 83(2B) a (5), 84(b) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel y darperir ar eu cyfer yn rheoliadau 3 i 6.
Diwygiad i reoliad 2
3 
Yn y diffiniad o “cynllun addysg personol” yn rheoliad 2(1), yn lle “yn rheoliad 5(b)(ii)” rhodder “gan adran 83(2A) o Ddeddf 2014”.
Diwygiad i reoliad 3
4 
Yn rheoliad 3, yn lle “Nid yw’r Rheoliadau hyn” rhodder “Nid yw Rhannau 2 i 10”.
Mewnosod Rhan 1A
5 
Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—“
RHAN 1A PLANT NAD OES CYNLLUN ADDYSG PERSONOL I GAEL EI LUNIO AR EU CYFER
3A. 
Rhagnodir y categorïau a ganlyn o blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion adran 83(2B) o Ddeddf 2014—
(a) unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 oni bai bod y plentyn yn dod o fewn rheoliad 56;
(b) unrhyw blentyn y mae’r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 62(2) yn gymwys mewn perthynas ag ef;
(c) unrhyw blentyn nad yw ond yn derbyn gofal oherwydd ei fod ar remánd i lety cadw ieuenctid.”
Diwygiadau i reoliad 5
6 
Yn rheoliad 5—
(a) hepgorer paragraff (1)(b)(ii);
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i’r cynllun addysg personol (gweler adran 83(2A) i (2D) o Ddeddf 2014) gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Gorffennaf 2021