
2021 Rhif 838 (Cy. 195)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Gwnaed 13 Gorffennaf 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Gorffennaf
Yn dod i rym 5 Awst 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 5 Awst 2021.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle Atodlen 1 rhodder—“
ATODLEN 1
Ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion
Rheoliad 3(2)


Math o arolygiad Ffi
Arolygiad ffisegol a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw—
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; £49.50
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw £12.38”.
(3) Yn lle Atodlen 4A rhodder—“
ATODLEN 4A
Ffioedd mewn cysylltiad â chais am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio: Cymru
Rheoliad 3(5A)


Gwasanaeth Ffi
Ystyried cais, gan gynnwys dyroddi, pan fo’n briodol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio £21.00
Archwilio neu brofi pren, cynhyrchion pren, rhisgl wedi ei wahanu neu beiriannau coedwigaeth a ddefnyddiwyd a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa)—
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; £37.80
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw £10.50”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2021