
2021 Rhif 826 (Cy. 193)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021
Gwnaed am 11.54 a.m. ar 12 Gorffennaf 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.45 p.m. ar 12 Gorffennaf 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 14 Gorffennaf 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 14 Gorffennaf 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Yn Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020, ar y diwedd mewnosoder—“
 Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Agored Cazoo,
 R & A – Cwpan Curtis,
 Red Bull Hardline,
 The Tour of Britain”.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
3 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), ar ôl paragraff (2)(a) mewnosoder—“
(aa) sy’n cael ei orfodi’n gyfreithlon i deithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs estraddodiad, dychweliad carcharor neu allgludiad;”.
(3) Yn rheoliad 5A (gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd)—
(a) ym mharagraff (2)(a), yn lle “; neu” rhodder “;”;
(b) ar ôl paragraff (2)(a), mewnosoder—“
(aa) sy’n cael ei orfodi’n gyfreithlon i deithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs estraddodiad, dychweliad carcharor neu allgludiad; neu”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 11.54 a.m. ar 12 Gorffennaf 2021