
2021 Rhif 710 (Cy. 180)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 16 Mehefin 2021
Yn dod i rym 17 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
Enwi a cychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “gwaith adfer” mewnosoder—“
 ystyr “gweithredwr proffesiynol” (“professional operator”) yw unrhyw berson, a lywodraethir gan y gyfraith gyhoeddus neu’r gyfraith breifat, sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn sy’n ymwneud â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol amdanynt—
(a) plannu;
(b) bridio;
(c) cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal;
(d) cyflwyno i Ogledd Iwerddon, symud o fewn Gogledd Iwerddon a symud allan o Ogledd Iwerddon;
(e) eu cynnig ar y farchnad;
(f) storio, casglu, anfon a phrosesu;”.
(3) Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (5A), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5C),”;
(b) ar ôl paragraff (5B), mewnosoder—“
(5C) Nid yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—
(a) gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad; neu
(b) i’w ddanfon i—
(i) gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon; neu
(ii) unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddibenion unrhyw fusnes.
(5D) Mae paragraff (5C) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.”.
3 
Yn y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â eitem 2 (Pren (ac eithrio pren ar ffurf rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif)), yn y drydedd golofn (uned);
(1) yn lle “25000KG” rhodder “100m³”; ac
(2) yn lle “1000kg” rhodder “m³”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2021