
2021 Rhif 709 (Cy. 179)
Anifeiliaid, CymruAtal Creulondeb
Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Amrywio) (Cymru) 2021
Gwnaed 15 Mehefin 2021
Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Amrywio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 7 Gorffennaf 2021.
Amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019
2 
Mae’r Atodlen i Orchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019 wedi ei hamrywio fel a ganlyn—
(a) yng nghofnodion Goodnature A18 Grey Squirrel Trap, Goodnature A18 Mink Trap, Goodnature A24 Pro a Goodnature A24 Rat and Stoat Trap, yng ngholofn 1 (y math o drap a’i wneuthuriad), yn lle “4-12 Cruickshank Street, Kilbirnie 6022, Wellington,” rhodder “8 Horner Street, Newtown, Wellington 6021,”;
(b) yn y cofnod ar gyfer Goodnature A24 Rat and Stoat Trap, yng ngholofn 2 (amodau), yn lle “a llygod” rhodder “, llygod a phathewod bwytadwy (Glis glis)”;
(c) ar ôl y cofnod ar gyfer Nooski Mouse Trap mewnosoder y cofnod a ganlyn—“
Perdix Spring Trap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, PERDIX Wildlife Solutions Ltd, Unit 1 Hatton Rock Business Park, Hatton Rock, Stratford-Upon-Avon, Warwickshire, CV37 0BX. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.”;
(d) yn y cofnod ar gyfer Tully Trap, yng ngholofn 2 (amodau), yn lle “a llygod mawr.” rhodder—“, llygod mawr a gwiwerod llwyd.Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar gyfer gwiwerod llwyd, rhaid gosod arno fafflau ar gyfer gwiwerod llwyd a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd neu a adeiladwyd yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd. Rhaid defnyddio bafflau a osodwyd ar drap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
15 Mehefin 2021