
2021 Rhif 686 (Cy. 172)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 3.35 p.m. ar 8 Mehefin 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.45 p.m. ar 8 Mehefin 2021
Yn dod i rym am 6.00 p.m. ar 8 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 p.m. ar 8 Mehefin 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, paragraff 4—
(a) yn is-baragraff (2)(e), yn lle “o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre” rhodder “mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol”;
(b) yn is-baragraff (2)(f)(i), hepgorer “, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo”;
(c) ar ôl is-baragraff (2)(g) mewnosoder—“
(h) digwyddiad a gynhelir i unrhyw raddau o dan do mewn mangre reoleiddiedig ac—
(i) lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol, neu
(ii) lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu, os yw’r fangre reoleiddiedig yn lety gwyliau neu lety teithio, o’r un aelwyd estynedig;
(i) digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig (ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio) ac—
(i) lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu
(ii) lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd;
(j) digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig neu yn yr awyr agored mewn llety gwyliau neu lety teithio ac—
(i) lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu
(ii) lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.”;
(d) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n bresennol mewn digwyddiad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a) unrhyw blant o dan 11 oed,
(b) gofalwr unrhyw berson sy’n bresennol, neu
(c) unrhyw berson sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.35 p.m. ar 8 Mehefin 2021