
2021 Rhif 66 (Cy. 15)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 2.24 p.m. ar 21 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.45 p.m. ar 21 Ionawr 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 22 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 22 Ionawr 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
(b) ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegu gwledydd at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yn Atodlen 3A
2 
Yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—“
 Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”“
 Gweriniaeth Unedig Tanzania”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 
Nid yw rheoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
RHAN 3 Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau
Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau
4 

(1) Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11A—
(a) yn lle’r pennawd rhodder—“
Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol”;
(b) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “9 Ionawr” rhodder “22 Ionawr”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “9 Ionawr” rhodder “22 Ionawr”;
(iii) yn is-baragraff (c), yn lle “mewn gwlad restredig” rhodder “yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania”;
(c) ym mharagraff 2, yn lle “mewn gwlad restredig” rhodder “yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania”;
(d) hepgorer paragraff (4).
RHAN 4 Diwygiadau i Ran 3C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A)
Diwygiadau i reoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraedd)
5 
Yn lle paragraff (1) o reoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol rhodder—“
(1) Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf neu ei fan ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai—
(a) ei bod yn rhesymol angenrheidiol iddi neu iddo wneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch yr awyren neu’r llestr neu iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd;
(b) mai dim ond at ddiben ail-lenwi’r awyren neu’r llestr â thanwydd, neu gynnal a chadw’r awyren neu’r llestr, y mae’n cyrraedd Cymru, ac na chaniateir i unrhyw deithwyr fynd ar fwrdd yr awyren neu’r llestr neu ddod oddi ar yr awyren neu’r llestr;
(c) mai ambiwlans awyr yw’r awyren a’i fod yn glanio at ddiben cludo person i gael triniaeth feddygol; neu
(d) bod cyrraedd yn ofynnol fel arall yn unol â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.24 p.m. ar 21 Ionawr 2021