
2021 Rhif 646 (Cy. 166)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021
Gwnaed am 4.24 p.m. ar 28 Mai 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.30 p.m. ar 28 Mai 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 29 Mai 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 29 Mai 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 12E(2)(d)(ia) (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) rhodder—“
(ia) paragraff 7, oni bai ei fod wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i weithio, neu wedi ei ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig ar ôl gweithio, ar fwrdd llong fordeithio;
(ib) paragraff 8;
(ic) paragraff 9, oni bai ei fod wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i weithio, neu wedi ei ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig ar ôl gweithio, ar fwrdd llong fordeithio;
(id) paragraff 10;”.
(3) Yn rheoliad 20(1) (y Rheoliadau’n dod i ben), yn lle “y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym” rhodder “31 Mai 2022”.
Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
3 
Yn rheoliad 11(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (dod i ben), yn lle “7 Mehefin 2021” rhodder “31 Mai 2022”.
Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
4 
Yn rheoliad 11(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (y Rheoliadau hyn yn dod i ben), yn lle “y 7fed diwrnod o Fehefin 2021” rhodder “31 Mai 2022”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 4.24 p.m. ar 28 Mai 2021