
2021 Rhif 612 (Cy. 163)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Gwnaed 23 Mai 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Mai 2021
Yn dod i rym 18 Mehefin 2021
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), (4) a (7), 537A(1), (2) a (3) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996 ac adrannau 19(1) a 54(3) o Ddeddf Addysg 1997, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mehefin 2021.
Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1A mewnosoder—“
Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-2021
1B. 
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021 gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”
(3) Yn rheoliad 5(2)(a), ar ôl “Atodlen 2” mewnosoder “(oni bai nad yw’r wybodaeth honno yn ofynnol yn rhinwedd rheoliad 1B)”.
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
3 
Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 mewnosoder—“
Addasu dyletswyddau ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-2021
1B. 
Mae’r ddyletswydd a osodir ar bennaeth gan reoliad 3(3) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2020-2021 i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw’r pennaeth wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.”
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011
4 
Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 mewnosoder—“
Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-2021
1B. 
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021 gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.”
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011
5 
Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 mewnosoder—“
Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-2021
1B. 
Ni chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliadau 5 a 6 gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Mai 2021