
2021 Rhif 61 (Cy. 14)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021
Gwnaed 20th Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig i adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf ddod i rym
2 
Y diwrnod penodedig i adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) ddod i rym yw 21 Ionawr 2021.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2021