
2021 Rhif 568 (Cy. 156)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021
Gwnaed am 2.26 p.m. ar 11 Mai 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.45 p.m. ar 11 Mai 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 12 Mai 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 12 Mai 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020, yn y lle priodol mewnosoder—“
 Maldives”“
 Nepal”“
 Twrci”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.26 p.m. ar 11 Mai 2021