
2021 Rhif 414 (Cy. 134)
Addysg, Cymru
Gorchymyn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021
Gwnaed 26 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 5(4)(b) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.
Y Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ddod i rym (y gosodwyd copi ohono ar ffurf ddrafft gerbron Senedd Cymru ar 18 Mawrth 2021 ac a gymeradwywyd drwy benderfyniad gan Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2021) yw 1 Medi 2021.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2021