
2021 Rhif 397 (Cy. 127)
Ystadegau Swyddogol, Cymru
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 24 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 6(1)(b)(iii) a (2) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.

Yn unol ag adran 65(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2021.
Diwygio Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017
2 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017, ar ôl “Hybu Cig Cymru” mewnosoder “Iechyd a Gofal Digidol Cymru”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2021