
2021 Rhif 384 (Cy. 122)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 22 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 24 Mawrth 2021
Yn dod i rym 31 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, bod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Senedd Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddi.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2021.
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 5—
(a) Ym mharagraff 5(3), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”;
(b) Ym mharagraff 6(1)(c), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2021