
2021 No. 383 (Cy. 121) (C. 14)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021
Gwnaed 22 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
(i) adran 312(2) o Ddeddf 1996—
(aa) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
(bb) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
(ii) adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
 mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
 mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
 mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
 ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
 mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
 ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
 mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
(i) adran 312(4) o Ddeddf 1996—
(aa) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
(bb) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
(ii) adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014;
 mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
 mae i “diwrnod ysgol” yr un ystyr â “school day” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
 mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â phlentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 15 o’r Ddeddf;
 ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012;
 mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
 mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
 ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru;
 mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr un ystyr â “pupil referral unit” yn adran 19(2) o Ddeddf 1996;
 mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
 mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, unrhyw ysgol feithrin a gynhelir, neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—
(a) adran 323;
(b) adran 329;
(c) adran 329A.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
(a) y Ddeddf,
(b) rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
(c) unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf neu a wneir o dan Ddeddf sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
(i) darpariaeth o’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath, neu
(ii) person y mae’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
(5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a) os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b) os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
(6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd
2 

(1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig—
(a) mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac yn blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;
(b) mewn uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru; neu
(c) mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—
(i) yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach); a
(ii) y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P;
a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol neu’r uned y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
(2) Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
(a) y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
(b) y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
(c) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(d) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(e) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii) dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(f) y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(g) y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii) dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—(aa) gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu(bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(h) y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;
(i) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
(i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu
(ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(j) y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(k) nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000—
(i) yn mynd rhagddo; neu
(ii) wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
(l) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(m) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(n) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i) nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii) bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii) nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(o) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—(aa) gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu(bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(p) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;
(q) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2021
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a) adrannau 2 i 4;
(b) adrannau 6 i 14;
(c) adrannau 16 i 36;
(d) adran 38;
(e) adrannau 40 i 44;
(f) adrannau 47 i 49;
(g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h) adran 50(4) i (5);
(i) adrannau 51 i 53;
(j) adran 55;
(k) adran 59;
(l) adrannau 63 i 66;
(m) adrannau 68 i 69;
(n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o) yn yr Atodlen—
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii) paragraff 4(2) i 4(8);
(iv) paragraff 4(9);
(v) paragraff 4(10);
(vi) paragraff 4(13) i 4(18);
(vii) paragraff 4(19)(b);
(viii) paragraff 4(20) a 4(21);
(ix) paragraff 4(23) i 4(29);
(x) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi) paragraff 7;
(xii) paragraff 8;
(xiii) paragraff 11(a);
(xiv) paragraff 12(a);
(xv) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi) paragraff 14(2) a (3);
(xvii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii) paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi) paragraff 22;
(xxii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii) paragraff 23(4);
(xxiv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv) paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).
Darpariaeth arbed
4 
Yn ddarostyngedig i erthyglau 5, 6, 7 ac 8, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—
(a) mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw; a
(b) nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Cymhwyso’r gyfraith newydd
5 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2021-2022.
(2) Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2021-2022.
(3) Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2021-2022.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 8, mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn 10 ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022-2023.
(2) Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022-2023.
(3) Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022-2023.
7 

(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 8, mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac nad oedd erthygl 5 na 6 yn gymwys iddo.
(2) Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2023-2024.
(3) Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2023-2024.
Hawl i ofyn am benderfyniad ynghylch a oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol
8 

(1) Caiff plentyn, sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 neu riant y plentyn hwnnw, ofyn i’r person priodol benderfynu o dan Ran 2 o’r Ddeddf a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol.
(2) Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad y daw’r cais i law.
(3) Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
(4) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “person priodol” yw—
(i) yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn pan fo’r plentyn hwnnw yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu mewn uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru ac—(aa) yn blentyn sy’n derbyn gofal;(bb) yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn;
(ii) pwyllgor rheoli’r uned cyfeirio disgyblion y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi os nad yw’r plentyn yn dod o fewn paragraff (i)(aa) neu (bb);
(b) ystyr “pwyllgor rheoli” yw pwyllgor rheoli a sefydlir ar gyfer uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996.
Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigol
9 
Wrth lunio cynllun datblygu unigol am y tro cyntaf ar gyfer plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a nodwyd ar 1 Medi 2021, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn y gwnaed y penderfyniad o dan Ran 2 o’r Ddeddf fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2021